Genesis 32:24-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

24. Gadawyd Jacob ei hunan, ac ymgodymodd gŵr ag ef hyd doriad y wawr.

25. Pan welodd y gŵr nad oedd yn cael y trechaf arno, trawodd wasg ei glun, a datgysylltwyd clun Jacob wrth iddo ymgodymu ag ef.

26. Yna dywedodd y gŵr, “Gollwng fi, oherwydd y mae'n gwawrio.” Ond atebodd yntau, “Ni'th ollyngaf heb iti fy mendithio.”

27. “Beth yw d'enw?” meddai ef. Ac atebodd yntau, “Jacob.”

Genesis 32