37. Er iti chwilio fy holl eiddo, beth a gefaist sy'n perthyn i ti? Gosod ef yma yng ngŵydd fy mrodyr i a'th frodyr dithau, er mwyn iddynt farnu rhyngom ein dau.
38. Yr wyf bellach wedi bod ugain mlynedd gyda thi; nid yw dy ddefaid na'th eifr wedi erthylu, ac nid wyf wedi bwyta hyrddod dy braidd.
39. Pan fyddai anifail wedi ei ysglyfaethu, ni ddygais mohono erioed atat ti, ond derbyniais y golled fy hun; o'm llaw i y gofynnaist iawn am ladrad, p'run ai yn y dydd neu yn y nos.
40. Dyma sut yr oeddwn i: yr oedd gwres y dydd ac oerni'r nos yn fy llethu, a chiliodd fy nghwsg oddi wrthyf;
41. bûm am ugain mlynedd yn dy dŷ; gweithiais iti am bedair blynedd ar ddeg am dy ddwy ferch, ac am chwe blynedd am dy braidd, a newidiaist fy nghyflog ddengwaith.
42. Oni bai fod Duw fy nhad, Duw Abraham ac Arswyd Isaac o'm plaid, diau y buasit wedi fy ngyrru i ffwrdd yn waglaw. Gwelodd Duw fy nghystudd a llafur fy nwylo, a neithiwr ceryddodd di.”
43. Atebodd Laban a dweud wrth Jacob, “Fy merched i yw'r merched, a'm plant i yw'r plant, a'm praidd i yw'r praidd, ac y mae'r cwbl a weli yn eiddo i mi. Ond beth a wnaf heddiw ynghylch fy merched hyn, a'r plant a anwyd iddynt?
44. Tyrd, gwnawn gyfamod, ti a minnau; a bydd yn dystiolaeth rhyngom.”
45. Felly cymerodd Jacob garreg a'i gosod i fyny'n golofn.
46. Ac meddai Jacob wrth ei berthnasau, “Casglwch gerrig,” a chymerasant gerrig a'u gwneud yn garnedd; a bwytasant yno wrth y garnedd.
47. Enwodd Laban hi Jegar-sahadwtha, ond galwodd Jacob hi Galeed.
48. Dywedodd Laban, “Y mae'r garnedd hon yn dystiolaeth rhyngom heddiw.” Am hynny, enwodd hi Galeed,
49. a hefyd Mispa, oherwydd dywedodd, “Gwylied yr ARGLWYDD rhyngom, pan fyddwn o olwg ein gilydd.
50. Os bydd iti gam-drin fy merched, neu gymryd gwragedd heblaw fy merched, heb i neb ohonom ni wybod, y mae Duw yn dyst rhyngom.”
51. A dywedodd Laban wrth Jacob, “Dyma'r garnedd hon a'r golofn yr wyf wedi ei gosod rhyngom.
52. Y mae'r garnedd hon yn dystiolaeth, ac y mae'r golofn hon yn dystiolaeth, na ddof heibio'r garnedd hon atat ti, ac na ddoi dithau heibio'r garnedd hon a'r golofn hon ataf fi, i wneud niwed.
53. Boed i Dduw Abraham a Duw Nachor, Duw eu tadau, farnu rhyngom.” A thyngodd Jacob lw i Arswyd Isaac, ei dad,
54. ac offrymodd Jacob aberth ar y mynydd, a galw ar ei berthnasau i fwyta bara; a bwytasant fara ac aros dros nos ar y mynydd.
55. Cododd Laban yn gynnar drannoeth a chusanodd ei blant a'i ferched a'u bendithio; yna aeth ymaith a dychwelyd i'w fro ei hun.