Genesis 30:41-43 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

41. Bob tro yr oedd y defaid cryfaf yn beichiogi, yr oedd Jacob yn gosod y gwiail yn y ffosydd gyferbyn â'r praidd, er mwyn iddynt feichiogi o flaen y gwiail,

42. ond nid oedd yn eu gosod ar gyfer defaid gwan y praidd; felly daeth y gwannaf yn eiddo Laban, a'r cryfaf yn eiddo Jacob.

43. Fel hyn cynyddodd ei gyfoeth ef yn fawr, ac yr oedd ganddo breiddiau niferus, morynion a gweision, camelod ac asynnod.

Genesis 30