Genesis 30:3-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

3. Dywedodd hithau, “Dyma fy morwyn Bilha; dos i gael cyfathrach â hi er mwyn iddi ddwyn plant ar fy ngliniau, ac i minnau gael teulu ohoni.”

4. Felly rhoddodd ei morwyn Bilha yn wraig iddo; a chafodd Jacob gyfathrach â hi.

5. Beichiogodd Bilha ac esgor ar fab i Jacob.

6. Yna dywedodd Rachel, “Y mae Duw wedi fy marnu; y mae hefyd wedi gwrando arnaf a rhoi imi fab.” Am hynny galwodd ef Dan.

7. Beichiogodd Bilha morwyn Rachel eilwaith, ac esgor ar ail fab i Jacob.

Genesis 30