Genesis 30:20-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

20. Yna dywedodd Lea, “Y mae Duw wedi rhoi imi waddol da; yn awr, bydd fy ngŵr yn fy mharchu, am imi esgor ar chwech o feibion iddo.” Felly galwodd ef Sabulon.

21. Wedi hynny esgorodd ar ferch, a galwodd hi Dina.

22. A chofiodd Duw Rachel, a gwrandawodd arni ac agor ei chroth.

23. Beichiogodd hithau ac esgor ar fab, a dywedodd, “Y mae Duw wedi tynnu ymaith fy ngwarth.”

24. A galwodd ef Joseff, gan ddweud, “Bydded i'r ARGLWYDD ychwanegu i mi fab arall.”

25. Wedi i Rachel esgor ar Joseff, dywedodd Jacob wrth Laban, “Gad imi ymadael, er mwyn imi fynd i'm cartref fy hun ac i'm gwlad.

Genesis 30