Genesis 29:7-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

7. “Nid yw eto ond canol dydd,” meddai yntau, “nid yw'n bryd casglu'r anifeiliaid; rhowch ddŵr i'r defaid, ac ewch i'w bugeilio.”

8. Ond atebasant, “Ni allwn nes casglu'r holl ddiadelloedd, a symud y garreg oddi ar geg y pydew; yna rhown ddŵr i'r defaid.”

9. Tra oedd yn siarad â hwy, daeth Rachel gyda defaid ei thad; oherwydd hi oedd yn eu bugeilio.

10. A phan welodd Jacob Rachel ferch Laban brawd ei fam, a defaid Laban brawd ei fam, nesaodd Jacob a symud y garreg oddi ar geg y pydew, a rhoi dŵr i braidd Laban brawd ei fam.

11. Cusanodd Jacob Rachel ac wylodd yn uchel.

12. Yna dywedodd Jacob wrth Rachel ei fod yn nai i'w thad, ac yn fab i Rebeca; rhedodd hithau i ddweud wrth ei thad.

Genesis 29