Genesis 29:1-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Yna aeth Jacob ymlaen ar ei daith, a dod i wlad pobl y dwyrain.

2. Wrth edrych, gwelodd bydew yn y maes, a thair diadell o ddefaid yn gorwedd wrtho, gan mai o'r pydew hwnnw y rhoid dŵr i'r diadelloedd. Yr oedd carreg fawr ar geg y pydew,

3. a phan fyddai'r holl ddiadelloedd wedi eu casglu yno, byddai'r bugeiliaid yn symud y garreg oddi ar geg y pydew, a rhoi dŵr i'r defaid, ac yna'n gosod y garreg yn ôl yn ei lle ar geg y pydew.

4. Dywedodd Jacob wrthynt, “Frodyr, o ble'r ydych yn dod?” Atebasant, “Rhai o Haran ydym ni.”

5. Yna gofynnodd iddynt, “A ydych yn adnabod Laban fab Nachor?” Atebasant hwythau, “Ydym.”

6. Wedyn meddai wrthynt, “A yw'n iawn?” Atebasant, “Ydyw; dacw ei ferch Rachel yn dod â'r defaid.”

Genesis 29