Genesis 28:6-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. Deallodd Esau fod Isaac wedi bendithio Jacob a'i anfon ymaith i Padan Aram i gymryd gwraig oddi yno, ac iddo orchymyn iddo wrth ei fendithio, “Paid â phriodi gwraig o blith merched Canaan”,

7. a bod Jacob wedi gwrando ar ei rieni a mynd i Padan Aram.

8. Pan welodd Esau nad oedd merched Canaan wrth fodd Isaac ei dad,

9. aeth at Ismael a chymryd yn wraig, at ei wragedd eraill, Mahalath ferch Ismael, fab Abraham, chwaer Nebaioth.

10. Ymadawodd Jacob â Beerseba a theithio tua Haran.

11. A daeth i ryw fan ac aros noson yno, gan fod yr haul wedi machlud. Cymerodd un o gerrig y lle a'i gosod dan ei ben, a gorweddodd i gysgu yn y fan honno.

Genesis 28