Genesis 27:32-40 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

32. Gofynnodd ei dad Isaac iddo, “Pwy wyt ti?” Atebodd yntau, “Dy fab Esau, dy gyntafanedig, wyf fi.”

33. Yna cyffrôdd Isaac yn ddirfawr, a dywedodd, “Pwy ynteu a heliodd fwyd a'i ddwyn ataf, a minnau'n bwyta'r cwbl cyn iti ddod, ac yn rhoi'r fendith iddo ef? Ac yn wir, bendigedig fydd ef.”

34. Pan glywodd Esau eiriau ei dad, gwaeddodd yn uchel a chwerw, a dweud wrth ei dad, “Bendithia fi, finnau hefyd, fy nhad.”

35. Ond dywedodd ef, “Y mae dy frawd wedi dod trwy dwyll, a chymryd dy fendith.”

36. Ac meddai Esau, “Onid Jacob yw'r enw priodol arno? Y mae wedi fy nisodli ddwywaith: dygodd fy ngenedigaeth-fraint, a dyma ef yn awr wedi dwyn fy mendith.” Yna dywedodd, “Onid oes gennyt fendith ar ôl i minnau?”

37. Atebodd Isaac a dweud wrth Esau, “Yr wyf wedi ei wneud ef yn arglwydd arnat, a rhoi ei holl berthnasau yn weision iddo, ac ŷd a gwin i'w gynnal. Beth, felly, a allaf ei wneud i ti, fy mab?”

38. A dywedodd Esau wrth ei dad, “Ai yr un fendith hon yn unig sydd gennyt, fy nhad? Bendithia fi, finnau hefyd, fy nhad.” A chododd Esau ei lais ac wylo.

39. Yna atebodd ei dad Isaac a dweud wrtho:“Wele, bydd dy gartref heb fraster daear,a heb wlith y nef oddi uchod.

40. Wrth dy gleddyf y byddi fyw,ac fe wasanaethi dy frawd;ond pan ddoi'n rhydd,fe dorri ei iau oddi ar dy wddf.”

Genesis 27