Genesis 27:18-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

18. Aeth yntau i mewn at ei dad a dweud, “Fy nhad.” Atebodd yntau, “Dyma fi, fy mab, pwy wyt ti?”

19. Dywedodd Jacob wrth ei dad, “Esau dy gyntafanedig wyf fi. Gwneuthum fel y dywedaist wrthyf; cod ar dy eistedd a bwyta o'm helfa, a bendithia fi.”

20. A dywedodd Isaac wrth ei fab, “Sut y cefaist hyd iddo mor fuan, fy mab?” Atebodd yntau, “Yr ARGLWYDD dy Dduw a'i trefnodd ar fy nghyfer.”

21. Yna dywedodd Isaac wrth Jacob, “Tyrd yn nes, er mwyn imi dy deimlo, fy mab, a gwybod ai ti yw fy mab Esau ai peidio.”

Genesis 27