Genesis 26:28-35 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

28. Atebasant hwythau, “Gwelsom yn eglur fod yr ARGLWYDD gyda thi; am hynny fe ddywedwn, ‘Bydded llw rhyngom’, a gwnawn gyfamod â thi,

29. na wnei di ddim drwg i ni, yn union fel na fu i ni gyffwrdd â thi, na gwneud dim ond daioni iti a'th anfon ymaith mewn heddwch. Yn awr, ti yw bendigedig yr ARGLWYDD.”

30. Yna, gwnaeth wledd iddynt, a bwytasant ac yfed.

31. Yn y bore codasant yn gynnar a thyngu llw i'w gilydd; ac anfonodd Isaac hwy ymaith, ac aethant mewn heddwch.

32. Daeth gweision Isaac y diwrnod hwnnw a mynegi iddo am y pydew yr oeddent wedi ei gloddio, a dweud wrtho, “Cawsom ddŵr.”

33. Galwodd yntau ef Seba; am hynny Beerseba yw enw'r ddinas hyd heddiw.

34. Pan oedd Esau'n ddeugain mlwydd oed, priododd Judith ferch Beeri yr Hethiad, a hefyd Basemath ferch Elon yr Hethiad;

35. a buont yn achos gofid i Isaac a Rebeca.

Genesis 26