Genesis 26:15-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

15. Caeodd y Philistiaid yr holl bydewau a gloddiodd y gweision yn nyddiau ei dad Abraham a'u llenwi â phridd,

16. a dywedodd Abimelech wrth Isaac, “Dos oddi wrthym, oherwydd aethost yn gryfach o lawer na ni.”

17. Felly ymadawodd Isaac oddi yno, a gwersyllodd yn nyffryn Gerar ac aros yno.

18. Ac ailgloddiodd Isaac y pydewau dŵr a gloddiwyd yn nyddiau ei dad Abraham, ac a gaewyd gan y Philistiaid ar ôl marw Abraham; a galwodd hwy wrth yr un enwau â'i dad.

19. Ond pan gloddiodd gweision Isaac yn y dyffryn, a chael yno ffynnon o ddŵr yn tarddu,

20. bu cynnen rhwng bugeiliaid Gerar a bugeiliaid Isaac, a dywedasant, “Ni biau'r dŵr.” Felly enwodd y ffynnon Esec, am iddynt godi cynnen ag ef.

21. Yna cloddiasant bydew arall, a bu cynnen ynglŷn â hwnnw hefyd; felly enwodd ef Sitna.

22. Symudodd oddi yno a chloddio pydew arall, ac ni bu cynnen ynglŷn â hwnnw; felly enwodd ef Rehoboth, a dweud, “Rhoes yr ARGLWYDD le helaeth i ni, a byddwn ffrwythlon yn y wlad.”

23. Aeth Isaac oddi yno i Beerseba.

Genesis 26