Genesis 24:9-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

9. Felly gosododd y gwas ei law dan glun ei feistr Abraham, a thyngu iddo am y mater hwn.

10. Yna cymerodd y gwas ddeg o gamelod ei feistr, a mynd ymaith a holl anrhegion ei feistr dan ei ofal, ac aeth i Aram-naharaim, i ddinas Nachor.

11. Parodd i'r camelod orwedd y tu allan i'r ddinas, wrth y pydew dŵr, gyda'r hwyr, sef yr amser y byddai'r merched yn dod i godi dŵr.

12. A dywedodd, “O ARGLWYDD, Duw fy meistr Abraham, rho lwyddiant i mi heddiw, a gwna garedigrwydd â'm meistr Abraham.

13. Dyma fi'n sefyll wrth y ffynnon ddŵr, a merched y ddinas yn dod i godi dŵr.

Genesis 24