Genesis 24:6-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. Dywedodd Abraham wrtho, “Gofala nad ei â'm mab yn ôl yno.

7. Yr ARGLWYDD, Duw'r nefoedd, yr un a'm cymerodd o dŷ fy nhad ac o wlad fy ngeni, ac a lefarodd a thyngu wrthyf, a dweud, ‘Rhof y wlad hon i'th ddisgynyddion’, bydd ef yn anfon ei angel o'th flaen, ac fe gymeri wraig i'm mab oddi yno.

8. Os na fydd y wraig am ddod ar dy ôl, yna byddi'n rhydd oddi wrth y llw hwn; ond paid â mynd â'm mab yn ôl yno.”

9. Felly gosododd y gwas ei law dan glun ei feistr Abraham, a thyngu iddo am y mater hwn.

10. Yna cymerodd y gwas ddeg o gamelod ei feistr, a mynd ymaith a holl anrhegion ei feistr dan ei ofal, ac aeth i Aram-naharaim, i ddinas Nachor.

11. Parodd i'r camelod orwedd y tu allan i'r ddinas, wrth y pydew dŵr, gyda'r hwyr, sef yr amser y byddai'r merched yn dod i godi dŵr.

12. A dywedodd, “O ARGLWYDD, Duw fy meistr Abraham, rho lwyddiant i mi heddiw, a gwna garedigrwydd â'm meistr Abraham.

13. Dyma fi'n sefyll wrth y ffynnon ddŵr, a merched y ddinas yn dod i godi dŵr.

14. Y ferch y dywedaf wrthi, ‘Gostwng dy stên, er mwyn i mi gael yfed’, a hithau'n ateb, ‘Yf, ac mi rof ddiod i'th gamelod hefyd’, bydded mai honno fydd yr un a ddarperaist i'th was Isaac. Wrth hyn y caf wybod iti wneud caredigrwydd â'm meistr.”

15. Cyn iddo orffen siarad, dyma Rebeca, a anwyd i Bethuel fab Milca, gwraig Nachor, brawd Abraham, yn dod allan â'i stên ar ei hysgwydd.

16. Yr oedd y ferch yn hardd odiaeth, yn wyryf, heb orwedd gyda gŵr. Aeth i lawr at y ffynnon, llanwodd ei stên, a daeth i fyny.

17. Rhedodd y gwas i'w chyfarfod, a dweud, “Gad imi yfed ychydig ddŵr o'th stên.”

18. Dywedodd hithau, “Yf, f'arglwydd,” a brysio i ostwng ei stên ar ei llaw, a rhoi diod iddo.

19. Pan orffennodd roi diod iddo, dywedodd hi, “Codaf ddŵr i'th gamelod hefyd, nes iddynt gael digon.”

20. Brysiodd i dywallt ei stên i'r cafn, a rhedeg eilwaith i'r ffynnon, a chodi dŵr i'w holl gamelod.

21. Syllodd y gŵr arni, heb ddweud dim, i wybod a oedd yr ARGLWYDD wedi llwyddo'i daith ai peidio.

22. Pan orffennodd y camelod yfed, cymerodd y gŵr fodrwy aur yn pwyso hanner sicl, a dwy freichled yn pwyso deg sicl o aur i'w garddyrnau,

23. ac meddai, “Dywed wrthyf, merch pwy wyt ti? A oes lle i ni aros noson yn nhŷ dy dad?”

24. Dywedodd hithau wrtho, “Merch Bethuel fab Milca a Nachor.”

25. Ac ychwanegodd, “Y mae gennym ddigon o wellt a phorthiant, a lle i letya.”

Genesis 24