Genesis 24:1-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Yr oedd Abraham yn hen ac oedrannus, ac yr oedd yr ARGLWYDD wedi ei fendithio ef ym mhob dim.

2. Yna dywedodd Abraham wrth y gwas hynaf yn ei dŷ, yr un oedd yn gofalu am ei holl eiddo, “Gosod dy law dan fy nghlun,

3. a pharaf iti dyngu i'r ARGLWYDD, Duw'r nefoedd a'r ddaear, na chymeri wraig i'm mab o ferched y Canaaneaid yr wyf yn byw yn eu plith,

4. ond yr ei i'm gwlad ac at fy nhylwyth, i gymryd gwraig i'm mab Isaac.”

5. Dywedodd y gwas wrtho, “Efallai na fydd y wraig am ddod ar fy ôl i'r wlad hon; a fydd raid i mi fynd â'th fab yn ôl i'r wlad y daethost allan ohoni?”

6. Dywedodd Abraham wrtho, “Gofala nad ei â'm mab yn ôl yno.

Genesis 24