Genesis 22:12-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

12. A dywedodd, “Paid â gosod dy law ar y bachgen, na gwneud dim iddo; oherwydd gwn yn awr dy fod yn ofni Duw, gan nad wyt wedi gwrthod rhoi dy fab, dy unig fab, i mi.”

13. Cododd Abraham ei olwg ac edrych, a dyna lle'r oedd hwrdd y tu ôl iddo wedi ei ddal gerfydd ei gyrn mewn drysni; aeth Abraham a chymryd yr hwrdd a'i offrymu yn boethoffrwm yn lle ei fab.

14. Ac enwodd Abraham y lle hwnnw, “Yr ARGLWYDD sy'n darparu”; fel y dywedir hyd heddiw, “Ar fynydd yr ARGLWYDD fe ddarperir.”

15. Galwodd angel yr ARGLWYDD eilwaith o'r nef ar Abraham,

16. a dweud, “Tyngais i mi fy hun,” medd yr ARGLWYDD, “oherwydd iti wneud hyn, heb wrthod rhoi dy fab, dy unig fab,

Genesis 22