Genesis 21:11-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

11. Yr oedd hyn yn atgas iawn gan Abraham o achos ei fab;

12. ond dywedodd Duw wrth Abraham, “Paid â phoeni am y llanc a'th gaethferch; gwna bopeth a ddywed Sara wrthyt, oherwydd trwy Isaac y cedwir dy linach.

13. Gwnaf fab y gaethferch hefyd yn genedl, am ei fod yn blentyn i ti.”

14. Yna cododd Abraham yn fore, a chymerodd fara a chostrel o ddŵr a'u rhoi i Hagar, a'u gosod hwy a'r bachgen ar ei hysgwydd, a'i hanfon ymaith. Aeth hithau i grwydro yn niffeithwch Beerseba.

Genesis 21