Genesis 16:8-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

8. A dywedodd wrthi, “Hagar forwyn Sarai, o ble y daethost, ac i ble'r wyt yn mynd?” Dywedodd hithau, “Ffoi yr wyf oddi wrth fy meistres Sarai.”

9. A dywedodd angel yr ARGLWYDD wrthi, “Dychwel at dy feistres, ac ymostwng iddi.”

10. Dywedodd angel yr ARGLWYDD hefyd wrthi, “Amlhaf dy ddisgynyddion yn ddirfawr, a byddant yn rhy luosog i'w rhifo.”

11. A dywedodd angel yr ARGLWYDD wrthi:“Yr wyt yn feichiog, ac fe esgori ar fab;byddi'n ei alw yn Ismael,oherwydd clywodd yr ARGLWYDD am dy gystudd.

Genesis 16