Genesis 16:13-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

13. A galwodd hi enw'r ARGLWYDD oedd yn llefaru wrthi yn “Tydi yw El-roi”, oherwydd dywedodd, “A wyf yn wir wedi gweld Duw, a byw ar ôl ei weld?”.

14. Am hynny galwyd y pydew Beer-lahai-roi; y mae rhwng Cades a Bered.

15. Ac esgorodd Hagar ar fab i Abram; ac enwodd Abram y mab a anwyd i Hagar yn Ismael.

Genesis 16