Genesis 12:18-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

18. A galwodd Pharo ar Abram a dweud, “Beth yw hyn yr wyt wedi ei wneud i mi? Pam na ddywedaist wrthyf mai dy wraig oedd hi?

19. Pam y dywedaist, ‘Fy chwaer yw hi’, fel fy mod wedi ei chymryd yn wraig imi? Dyma dy wraig; cymer hi a dos ymaith.”

20. A rhoes Pharo orchymyn i'w wŷr amdano, ac anfonasant ef a'i wraig a'i holl eiddo ymaith.

Genesis 12