Genesis 12:11-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

11. A phan oedd ar gyrraedd yr Aifft, dywedodd wrth Sarai ei wraig, “Gwn yn dda dy fod yn wraig brydferth;

12. a phan wêl yr Eifftiaid di, fe ddywedant, ‘Dyma ei wraig.’ A lladdant fi, a'th gadw di'n fyw.

13. Dywed mai fy chwaer wyt, fel y bydd yn dda i mi o'th herwydd ac yr arbedir fy mywyd o'th achos.”

14. Pan gyrhaeddodd Abram yr Aifft, gwelodd yr Eifftiaid fod y wraig yn brydferth iawn.

15. A gwelodd tywysogion Pharo hi a'i chanmol wrth Pharo, a chymerwyd y wraig i dŷ Pharo.

Genesis 12