Genesis 11:22-26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

22. Bu Serug fyw am dri deg o flynyddoedd cyn geni iddo Nachor.

23. Wedi geni Nachor, bu Serug fyw am ddau gan mlynedd, a chafodd feibion a merched eraill.

24. Bu Nachor fyw am ddau ddeg a naw o flynyddoedd cyn geni iddo Tera.

25. Wedi geni Tera, bu Nachor fyw am gant un deg a naw o flynyddoedd, a chafodd feibion a merched eraill.

26. Bu Tera fyw am saith deg o flynyddoedd cyn geni iddo Abram, Nachor a Haran.

Genesis 11