Genesis 11:2-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

2. Wrth ymdeithio yn y dwyrain, cafodd y bobl wastadedd yng ngwlad Sinar a thrigo yno.

3. A dywedasant wrth ei gilydd, “Dewch, gwnawn briddfeini a'u crasu'n galed.” Priddfeini oedd ganddynt yn lle cerrig, a phyg yn lle calch.

4. Yna dywedasant, “Dewch, adeiladwn i ni ddinas, a thŵr a'i ben yn y nefoedd, a gwnawn inni enw, rhag ein gwasgaru dros wyneb yr holl ddaear.”

5. Disgynnodd yr ARGLWYDD i weld y ddinas a'r tŵr yr oedd y bobl wedi eu hadeiladu,

Genesis 11