Genesis 11:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Un iaith ac un ymadrodd oedd i'r holl fyd.

2. Wrth ymdeithio yn y dwyrain, cafodd y bobl wastadedd yng ngwlad Sinar a thrigo yno.

3. A dywedasant wrth ei gilydd, “Dewch, gwnawn briddfeini a'u crasu'n galed.” Priddfeini oedd ganddynt yn lle cerrig, a phyg yn lle calch.

4. Yna dywedasant, “Dewch, adeiladwn i ni ddinas, a thŵr a'i ben yn y nefoedd, a gwnawn inni enw, rhag ein gwasgaru dros wyneb yr holl ddaear.”

Genesis 11