Genesis 10:9-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

9. Yr oedd yn heliwr cryf gerbron yr ARGLWYDD; dyna pam y dywedir, “Fel Nimrod, yn heliwr cryf gerbron yr ARGLWYDD.”

10. Dechreuodd ei frenhiniaeth gyda Babel, Erech, Accad a Calne yng ngwlad Sinar.

11. Aeth allan o'r wlad honno i Asyria ac adeiladu Ninefe, Rehoboth-ir, Cala,

12. a Resen, dinas fawr rhwng Ninefe a Cala.

13. Yr oedd Misraim yn dad i Ludim, Anamim, Lehabim, Nafftwhim,

14. Pathrusim, Casluhim a Cafftorim, y daeth y Philistiaid ohonynt.

15. Canaan oedd tad Sidon, ei gyntafanedig, a Heth;

16. hefyd y Jebusiaid, Amoriaid, Girgasiaid,

Genesis 10