Genesis 10:6-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. Meibion Cham oedd Cus, Misraim, Put, a Canaan.

7. Meibion Cus: Seba, Hafila, Sabta, Raama, a Sabteca. Meibion Raama: Seba a Dedan.

8. Cus oedd tad Nimrod; hwn oedd y cyntaf o gedyrn y ddaear.

9. Yr oedd yn heliwr cryf gerbron yr ARGLWYDD; dyna pam y dywedir, “Fel Nimrod, yn heliwr cryf gerbron yr ARGLWYDD.”

Genesis 10