Genesis 10:14-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

14. Pathrusim, Casluhim a Cafftorim, y daeth y Philistiaid ohonynt.

15. Canaan oedd tad Sidon, ei gyntafanedig, a Heth;

16. hefyd y Jebusiaid, Amoriaid, Girgasiaid,

17. Hefiaid, Arciaid, Siniaid,

18. Arfadiaid, Semariaid, a Hamathiaid. Wedi hynny gwasgarwyd teuluoedd y Canaaneaid,

19. ac estyn eu ffin o Sidon i gyfeiriad Gerar, hyd Gasa; ac i gyfeiriad Sodom, Gomorra, Adma, a Seboim, hyd Lesa.

20. Dyna feibion Cham, yn ôl eu llwythau a'u hieithoedd, ynghyd â'u gwledydd a'u cenhedloedd.

21. I Sem hefyd, tad holl feibion Heber, brawd hynaf Jaffeth, ganwyd plant.

22. Meibion Sem oedd Elam, Assur, Arffaxad, Lud, ac Aram.

23. Meibion Aram: Us, Hul, Gether, a Mas.

24. Arffaxad oedd tad Sela, a Sela oedd tad Heber.

Genesis 10