Genesis 1:7-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

7. A gwnaeth Duw y ffurfafen, a gwahanodd y dyfroedd odani oddi wrth y dyfroedd uwchlaw iddi. A bu felly.

8. Galwodd Duw y ffurfafen yn nefoedd. A bu hwyr a bu bore, yr ail ddydd.

9. Yna dywedodd Duw, “Casgler ynghyd y dyfroedd dan y nefoedd i un lle, ac ymddangosed tir sych.” A bu felly.

10. Galwodd Duw y tir sych yn ddaear, a chronfa'r dyfroedd yn foroedd. A gwelodd Duw fod hyn yn dda.

11. Dywedodd Duw, “Dyged y ddaear dyfiant, llysiau yn dwyn had, a choed ir ar y ddaear yn dwyn ffrwyth â had ynddo, yn ôl eu rhywogaeth.” A bu felly.

12. Dygodd y ddaear dyfiant, llysiau yn dwyn had yn ôl eu rhywogaeth, a choed yn dwyn ffrwyth â had ynddo, yn ôl eu rhywogaeth. A gwelodd Duw fod hyn yn dda.

Genesis 1