12. Rwy'n ymbil arnoch, gyfeillion, byddwch fel yr wyf fi, oherwydd fe fûm i, yn wir, fel yr oeddech chwi. Ni wnaethoch ddim cam â mi.
13. Fel y gwyddoch, ar achlysur gwendid corfforol y pregethais yr Efengyl i chwi y tro cyntaf;
14. ac er i gyflwr fy nghorff fod yn demtasiwn i chwi, ni fuoch na dibris na dirmygus ohonof, ond fy nerbyn a wnaethoch fel angel Duw, fel Crist Iesu ei hun.
15. Ble'r aeth eich llawenydd? Oherwydd gallaf dystio amdanoch, y buasech wedi tynnu'ch llygaid allan a'u rhoi i mi, petasai hynny'n bosibl.
16. A wyf fi, felly, wedi mynd yn elyn ichwi, am imi ddweud y gwir wrthych?