Galatiaid 3:25-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

25. Ond gan fod y ffydd hon bellach wedi dod, nid ydym mwyach dan warchodaeth gwas.

26. Oblegid yr ydych bawb, trwy ffydd, yn blant Duw yng Nghrist Iesu.

27. Oherwydd y mae pob un ohonoch sydd wedi ei fedyddio i Grist wedi gwisgo Crist amdano.

28. Nid oes rhagor rhwng Iddewon a Groegiaid, rhwng caeth a rhydd, rhwng gwryw a benyw, oherwydd un person ydych chwi oll yng Nghrist Iesu.

Galatiaid 3