14. Yr oeddent yn crwydro fel deillion yn y strydoedd,wedi eu halogi â gwaed,fel na feiddiai neb gyffwrdd â'u dillad.
15. “Cadwch draw, maent yn aflan,”—dyna a waeddai pobl—“cadwch draw, cadwch draw, peidiwch â'u cyffwrdd!”Yn wir fe ffoesant a mynd ar grwydr,a dywedwyd ymysg y cenhedloedd,“Ni chânt aros yn ein plith mwyach.”
16. Yr ARGLWYDD ei hun a'u gwasgarodd,heb edrych arnynt mwyach;ni roddwyd anrhydedd i'r offeiriaid,na ffafr i'r henuriaid.
17. Yr oedd ein llygaid yn palluwrth edrych yn ofer am gymorth;buom yn disgwyl a disgwylwrth genedl na allai achub.
18. Yr oeddent yn gwylio pob cam a gymerem,fel na allem fynd allan i'n strydoedd.Yr oedd ein diwedd yn agos, a'n dyddiau'n dod i ben;yn wir fe ddaeth ein diwedd.
19. Yr oedd ein herlidwyr yn gyflymachnag eryrod yr awyr;yr oeddent yn ein herlid ar y mynyddoedd,ac yn gwylio amdanom yn y diffeithwch.
20. Anadl ein bywyd, eneiniog yr ARGLWYDD,a ddaliwyd yn eu maglau,a ninnau wedi meddwl mai yn ei gysgod efy byddem yn byw'n ddiogel ymysg y cenhedloedd.
21. Gorfoledda a bydd lawen, ferch Edom,sy'n preswylio yng ngwlad Us!Ond fe ddaw'r cwpan i tithau hefyd;byddi'n feddw ac yn dy ddinoethi dy hun.
22. Daeth terfyn ar dy gosb, ferch Seion;ni chei dy gaethgludo eto.Ond fe ddaw dy gosb arnat ti, ferch Edom;fe ddatgelir dy bechod.