Galarnad 4:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. O fel y pylodd yr aur,ac y newidiodd yr aur coeth!Gwasgarwyd meini'r cysegrym mhen pob stryd.

2. Plant gwerthfawr Seion,a oedd yn werth eu pwysau mewn aur,yn awr yn cael eu hystyried fel llestri pridd,gwaith dwylo crochenydd!

3. Y mae hyd yn oed siacaliaid yn dinoethi'r froni roi sugn i'w hepil,ond y mae merch fy mhobl wedi mynd yn greulon,fel estrys yn yr anialwch.

4. Y mae tafod y plentyn sugnoyn glynu wrth ei daflod o syched;y mae'r plant yn cardota bara,heb neb yn ei roi iddynt.

5. Y mae'r rhai a arferai fwyta danteithionyn ddiymgeledd yn y strydoedd,a'r rhai a fagwyd mewn ysgarladyn ymgreinio ar domennydd ysbwriel.

Galarnad 4