Galarnad 3:59-65 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

59. Gwelaist, O ARGLWYDD, y cam a wnaethpwyd â mi,a dyfernaist o'm plaid.

60. Gwelaist eu holl ddial,a'u holl gynllwynio yn f'erbyn.

61. Clywaist, O ARGLWYDD, eu dirmyg,a'u holl gynllwynio yn f'erbyn—

62. geiriau a sibrydion fy ngwrthwynebwyryn f'erbyn bob dydd.

63. Edrych arnynt—yn eistedd neu'n sefyll,fi yw testun eu gwawd.

64. O ARGLWYDD, tâl iddyntyn ôl gweithredoedd eu dwylo.

65. Rho iddynt ofid calon,a bydded dy felltith arnynt.

Galarnad 3