Galarnad 3:43-49 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

43. Yr wyt yn llawn dig ac yn ein herlid,yn lladd yn ddiarbed.

44. Ymguddiaist mewn cwmwlrhag i'n gweddi ddod atat.

45. Gwnaethost ni'n ysbwriel ac yn garthionymysg y bobloedd.

46. Y mae'n holl elynionyn gweiddi'n groch yn ein herbyn.

47. Fe'n cawsom ein hunain mewn dychryn a magl,hefyd mewn difrod a dinistr.

48. Y mae fy llygad yn ffrydiau o ddŵro achos dinistr merch fy mhobl;

49. y mae'n diferu'n ddi-baid,heb gael gorffwys,

Galarnad 3