Galarnad 3:19-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

19. Cofia fy nhrallod a'm crwydro,y wermod a'r bustl.

20. Yr wyf fi yn ei gofio'n wastad,ac wedi fy narostwng.

21. Meddyliaf yn wastad am hyn,ac felly disgwyliaf yn eiddgar.

22. Nid oes terfyn ar gariad yr ARGLWYDD,ac yn sicr ni phalla ei dosturiaethau.

23. Y maent yn newydd bob bore,a mawr yw dy ffyddlondeb.

Galarnad 3