Exodus 8:26-32 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

26. Ond dywedodd Moses, “Ni fyddai'n briodol inni wneud hynny, oherwydd byddwn yn aberthu i'r ARGLWYDD ein Duw bethau sy'n ffiaidd i'r Eifftiaid; ac os aberthwn yn eu gŵydd bethau sy'n ffiaidd i'r Eifftiaid, oni fyddant yn ein llabyddio?

27. Rhaid inni fynd daith dridiau i'r anialwch i aberthu i'r ARGLWYDD ein Duw, fel y mae ef yn gorchymyn inni.”

28. Atebodd Pharo, “Fe adawaf i chwi fynd i aberthu i'r ARGLWYDD eich Duw yn yr anialwch, ond peidiwch â mynd yn rhy bell. Yn awr, gweddïwch drosof.”

29. Yna dywedodd Moses, “Fe af allan oddi wrthyt a gweddïo ar yr ARGLWYDD i'r haid o bryfed symud yfory oddi wrth Pharo a'i weision a'i bobl; ond peidied Pharo â cheisio twyllo eto trwy wrthod rhyddhau'r bobl i aberthu i'r ARGLWYDD.”

30. Felly aeth Moses ymaith o ŵydd Pharo i weddïo ar yr ARGLWYDD.

31. Gwnaeth yr ARGLWYDD yr hyn yr oedd Moses yn ei ddymuno, a symudodd yr haid o bryfed oddi wrth Pharo ac oddi wrth ei weision a'i bobl; ni adawyd yr un ar ôl.

32. Ond caledodd Pharo ei galon y tro hwn eto, ac ni ollyngodd y bobl yn rhydd.

Exodus 8