19. Dywedodd y swynwyr wrth Pharo, “Trwy fys Duw y digwyddodd hyn.” Ond yr oedd calon Pharo wedi caledu, ac nid oedd am wrando ar Moses ac Aaron, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi dweud.
20. Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Cod yn gynnar yn y bore i gyfarfod â Pharo wrth iddo fynd tua'r afon, a dywed wrtho, ‘Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Gollwng fy mhobl yn rhydd, er mwyn iddynt fy addoli;
21. oherwydd, os gwrthodi eu rhyddhau, byddaf yn anfon haid o bryfed arnat ti, dy weision, dy bobl a'th dai. Bydd tai'r Eifftiaid a'r tir danynt yn orlawn o bryfed.
22. Ond ar y dydd hwnnw byddaf yn neilltuo gwlad Gosen, lle mae fy mhobl yn byw, ac ni fydd haid o bryfed yno; felly, byddi'n gwybod fy mod i, yr ARGLWYDD, yma yn y wlad.
23. Gan hynny, byddaf yn gwahaniaethu rhwng fy mhobl i a'th bobl di. Bydd yr arwydd hwn yn ymddangos yfory.’ ”
24. Gwnaeth yr ARGLWYDD hynny; daeth haid enfawr o bryfed i dŷ Pharo ac i dai ei weision, a difethwyd holl dir gwlad yr Aifft gan y pryfed.
25. Yna galwodd Pharo am Moses ac Aaron a dweud, “Ewch i aberthu i'ch Duw yma yn y wlad.”