Exodus 7:7-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

7. Pan lefarodd Moses ac Aaron wrth Pharo, yr oedd Moses yn bedwar ugain oed ac Aaron yn dair a phedwar ugain.

8. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses ac Aaron,

9. “Os bydd Pharo'n dweud wrthych am wneud rhyfeddod, yr wyt ti, Moses, i ddweud wrth Aaron, ‘Cymer dy wialen a'i thaflu ar lawr o flaen Pharo, ac fe dry'n sarff.’ ”

10. Felly, aeth Moses ac Aaron at Pharo a gwneud fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn iddynt.

Exodus 7