Exodus 7:5-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

5. Bydd yr Eifftiaid yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD pan estynnaf fy llaw yn erbyn yr Aifft a rhyddhau'r Israeliaid o'u plith.”

6. Gwnaeth Moses ac Aaron yn union fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn iddynt.

7. Pan lefarodd Moses ac Aaron wrth Pharo, yr oedd Moses yn bedwar ugain oed ac Aaron yn dair a phedwar ugain.

8. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses ac Aaron,

9. “Os bydd Pharo'n dweud wrthych am wneud rhyfeddod, yr wyt ti, Moses, i ddweud wrth Aaron, ‘Cymer dy wialen a'i thaflu ar lawr o flaen Pharo, ac fe dry'n sarff.’ ”

Exodus 7