Exodus 6:26-30 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

26. Dyma'r Aaron a'r Moses y dywedodd yr ARGLWYDD wrthynt, “Dygwch yr Israeliaid allan o wlad yr Aifft, yn ôl eu lluoedd.”

27. Dyma hefyd y Moses a'r Aaron a ddywedodd wrth Pharo brenin yr Aifft am ryddhau'r Israeliaid o'r Aifft.

28. Pan lefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses yng ngwlad yr Aifft,

29. dywedodd wrtho, “Myfi yw'r ARGLWYDD; dywed wrth Pharo brenin yr Aifft y cyfan yr wyf yn ei ddweud wrthyt.”

30. Ond dywedodd Moses wrth yr ARGLWYDD, “Y mae nam ar fy lleferydd; sut, felly, y bydd Pharo yn gwrando arnaf?”

Exodus 6