Exodus 6:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Cei weld yn awr beth a wnaf i Pharo; â llaw nerthol bydd yn gollwng y bobl yn rhydd, a'u gyrru ymaith o'i wlad.”

2. Dywedodd Duw hefyd wrth Moses, “Myfi yw'r ARGLWYDD.

3. Ymddangosais i Abraham, Isaac a Jacob fel Duw Hollalluog, ac nid oeddent yn fy adnabod wrth fy enw, ARGLWYDD.

4. Hefyd, gwneuthum gyfamod â hwy i roi iddynt wlad Canaan, lle buont yn byw fel estroniaid;

5. a phan glywais riddfan yr Israeliaid oedd dan orthrwm yr Eifftiaid, cofiais fy nghyfamod.

Exodus 6