Exodus 5:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Yna aeth Moses ac Aaron at Pharo a dweud, “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel: ‘Gollwng fy mhobl yn rhydd er mwyn iddynt gadw gŵyl i mi yn yr anialwch.’ ”

2. Dywedodd Pharo, “Pwy yw yr ARGLWYDD? Pam y dylwn i ufuddhau iddo a gollwng Israel yn rhydd? Nid wyf yn adnabod yr ARGLWYDD, ac felly nid wyf am ollwng Israel yn rhydd.”

3. Yna dywedasant, “Y mae Duw'r Hebreaid wedi cyfarfod â ni. Gad inni fynd daith dridiau i'r anialwch i aberthu i'r ARGLWYDD, ein Duw, rhag iddo ein taro â haint neu â chleddyf.”

4. Ond dywedodd brenin yr Aifft wrthynt, “Moses ac Aaron, pam yr ydych yn denu'r bobl oddi wrth eu gwaith? Ewch yn ôl at eich gorchwylion.”

Exodus 5