Exodus 40:23-34 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

23. a threfnodd y bara arno gerbron yr ARGLWYDD, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn iddo.

24. Rhoddodd y canhwyllbren ym mhabell y cyfarfod, gyferbyn â'r bwrdd ar ochr ddeheuol y tabernacl,

25. a goleuodd y lampau gerbron yr ARGLWYDD, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn iddo.

26. Rhoddodd yr allor aur ym mhabell y cyfarfod o flaen y gorchudd,

27. ac offrymodd arogldarth peraidd arni, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn iddo.

28. Rhoddodd y llen ar ddrws y tabernacl,

29. a gosododd allor y poethoffrwm wrth ddrws y tabernacl, pabell y cyfarfod, ac offrymodd arni boethoffrwm a bwydoffrwm, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn iddo.

30. Gosododd y noe rhwng pabell y cyfarfod a'r allor, a rhoi ynddi ddŵr,

31. er mwyn i Moses, Aaron a'i feibion olchi eu dwylo a'u traed.

32. Ymolchent wrth fynd i mewn i babell y cyfarfod ac wrth nesáu at yr allor, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.

33. Cododd gyntedd o amgylch y tabernacl a'r allor, a rhoddodd y gorchudd dros borth y cyntedd. Felly y gorffennodd Moses y gwaith.

34. Yna gorchuddiodd cwmwl babell y cyfarfod, ac yr oedd gogoniant yr ARGLWYDD yn llenwi'r tabernacl.

Exodus 40