Exodus 40:16-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

16. Felly gwnaeth Moses y cyfan a orchmynnodd yr ARGLWYDD iddo;

17. ac ar y dydd cyntaf o'r mis cyntaf o'r ail flwyddyn fe godwyd y tabernacl.

18. Moses a gododd y tabernacl; gosododd ef ar ei draed, adeiladodd ei fframiau, rhoddodd ei bolion yn eu lle a chododd ei golofnau.

19. Lledodd y babell dros y tabernacl, a gosod to'r babell drosto, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn iddo.

20. Cymerodd y dystiolaeth a'i rhoi yn yr arch; cysylltodd y polion wrth yr arch, a rhoi'r drugareddfa arni.

21. Yna daeth â'r arch i mewn i'r tabernacl, a gosod y gorchudd yn ei le dros arch y dystiolaeth, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn iddo.

Exodus 40