10. Dywedodd Moses wrth yr ARGLWYDD, “O f'Arglwydd, ni fûm erioed yn ŵr huawdl, nac yn y gorffennol nac er pan ddechreuaist lefaru wrth dy was; y mae fy lleferydd yn araf a'm tafod yn drwm.”
11. Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, “Pwy a roes enau i feidrolyn? Pwy a'i gwna yn fud neu'n fyddar? Pwy a rydd iddo olwg, neu ei wneud yn ddall? Onid myfi, yr ARGLWYDD?
12. Yn awr, dos, rhof help iti i lefaru, a'th ddysgu beth i'w ddweud.”
13. Ond dywedodd ef, “O f'Arglwydd, anfon pwy bynnag arall a fynni.”
14. Digiodd yr ARGLWYDD wrth Moses a dywedodd, “Onid Aaron y Lefiad yw dy frawd? Gwn y gall ef siarad yn huawdl; y mae ar ei ffordd i'th gyfarfod, a bydd yn falch o'th weld.
15. Llefara di wrtho a gosod y geiriau yn ei enau, a rhof finnau help i'r ddau ohonoch i lefaru, a'ch dysgu beth i'w wneud.
16. Bydd ef yn llefaru wrth y bobl ar dy ran; bydd ef fel genau iti, a byddi dithau fel Duw iddo yntau.
17. Cymer y wialen hon yn dy law, oherwydd trwyddi hi y byddi'n gwneud yr arwyddion.”
18. Dychwelodd Moses at Jethro ei dad-yng-nghyfraith a dweud wrtho, “Gad imi fynd yn ôl at fy mhobl sydd yn yr Aifft i weld a ydynt yn dal yn fyw.” Dywedodd Jethro wrtho, “Rhwydd hynt iti.”
19. Yr oedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses yn Midian, “Dos yn ôl i'r Aifft, oherwydd y mae pawb oedd yn ceisio dy ladd bellach wedi marw.”
20. Felly, cymerodd Moses ei wraig a'i feibion, a'u gosod ar asyn a mynd yn ôl i wlad yr Aifft, â gwialen Duw yn ei law.