Exodus 39:37-40 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

37. y canhwyllbren o aur pur, ei lampau wedi eu goleuo, ynghyd â'u holl lestri, a'r olew ar gyfer y golau;

38. yr allor aur, olew'r ennaint a'r arogldarth peraidd; gorchudd drws y tabernacl;

39. yr allor bres, a'r rhwyll bres ar ei chyfer, a'i pholion a'i holl lestri; y noe a'i throed;

40. llenni'r cyntedd, ei golofnau a'i draed; gorchudd porth y cyntedd, ei raffau a'i hoelion, a'r holl lestri ar gyfer gwasanaeth y tabernacl, sef pabell y cyfarfod;

Exodus 39