Exodus 39:32-38 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

32. Felly y gorffennwyd holl waith y tabernacl, sef pabell y cyfarfod; ac yr oedd pobl Israel wedi gwneud y cyfan a orchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses.

33. Daethant â'r tabernacl at Moses, sef y babell a'i holl lestri, y bachau, y fframiau, y barrau, y colofnau, y traed;

34. y to o grwyn hyrddod wedi eu lliwio'n goch ac o grwyn morfuchod, a'r gorchudd;

35. arch y dystiolaeth a'i pholion a'r drugareddfa;

36. y bwrdd a'i holl lestri, a'r bara gosod;

37. y canhwyllbren o aur pur, ei lampau wedi eu goleuo, ynghyd â'u holl lestri, a'r olew ar gyfer y golau;

38. yr allor aur, olew'r ennaint a'r arogldarth peraidd; gorchudd drws y tabernacl;

Exodus 39