Exodus 39:24-30 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

24. Gwnaethant o amgylch godre'r fantell bomgranadau o sidan glas, porffor ac ysgarlad, ac o liain wedi ei nyddu.

25. Gwnaethant hefyd glychau o aur pur,

26. a'u gosod rhwng y pomgranadau o amgylch godre'r fantell ar gyfer y gwasanaeth; felly yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.

27. Gwnaethant siacedau wedi eu gwau o liain main ar gyfer Aaron a'i feibion;

28. gwnaethant hefyd benwisg a chapiau, llodrau

29. a gwregys, y cwbl o liain main wedi ei nyddu ac o sidan glas, porffor ac ysgarlad wedi ei frodio; felly yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.

30. Gwnaethant blât y goron gysegredig o aur pur, ac argraffu arno, fel ar sêl, “Sanctaidd i'r ARGLWYDD”;

Exodus 39