Exodus 37:10-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

10. Gwnaeth fwrdd o goed acasia, dau gufydd o hyd, cufydd o led, a chufydd a hanner o uchder.

11. Goreurodd ef ag aur pur drosto, a gwnaeth ymyl aur o'i amgylch.

12. Gwnaeth ffrâm o led llaw o'i gwmpas, ac ymyl aur o amgylch y ffrâm.

13. Gwnaeth hefyd ar ei gyfer bedair o ddolennau aur, a'u clymu wrth y pedair coes yn y pedair congl.

14. Yr oedd y dolennau ar ymyl y ffrâm yn dal y polion oedd yn cludo'r bwrdd.

Exodus 37