Exodus 36:21-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

21. pob un yn ddeg cufydd o hyd a chufydd a hanner o led,

22. a dau denon ym mhob ffrâm i'w cysylltu â'i gilydd; gwnaeth hyn i holl fframiau'r tabernacl.

23. Dyma drefn fframiau'r tabernacl: ugain ffrâm ar yr ochr ddeheuol,

24. a deugain troed arian dan yr ugain ffrâm, dau droed i bob ffrâm ar gyfer ei dau denon.

25. Ar yr ail ochr i'r tabernacl, sef yr ochr ogleddol, gwnaeth ugain ffrâm

26. a'u deugain troed arian, dau droed dan bob ffrâm.

27. Yng nghefn y tabernacl, sef yr ochr orllewinol, gwnaeth chwe ffrâm,

Exodus 36